NOSON BLASU GWINOEDD Y BYD

Noson o flasu gwinoedd o wledydd ledled y byd. Beth am drefnu noson hwyliog rhwng criw o ffrindiau. Mae’r noson ar gael i griw o 15 o bobl a mwy.
O dan arweiniad Richard Wyn Huws, perchennog Gwinllan Pant Du, cewch eich tywys drwy’r broses o sut i flasu a gwerthfawrogi gwin drwy’r dull “Blind Wine Tasting”.

Bydd 6 gwin gwahanol i’w blasu, a bydd caws a bisgedi, creision a chigoedd oer i gyd fynd gyda'ch profiad blasu.

£20.00 y pen

Opsiwn o swper i ddilyn, manylion llawn yn y poster yma
Cysylltwch i drefnu noson - post@pantdu.co.uk / 01286 881819.

© 2019 Hawlfraint Pant Du. Gwefan gan Delwedd