Ty Bwyta | Bar
Mae Tŷ Bwyta Pant Du ar lethrau un o ddyffrynnoedd harddaf Eryri - Dyffryn Nantlle. Mae yna ffenestri gwydr ar draws yr adeilad i fwynhau golygfeydd o’r winllan a’r berllan, a mynyddoedd trawiadol Eryri a thu hwnt.
Cewch ddewis gwych o brydau cartref poeth ac oer ar y fwydlen, yn ogystal â detholiad o brydau plant, a chacennau cartref blasus. Mae Pant Du yn falch o gefnogi cynhyrchwyr bwyd a diod lleol.
Yn ychwanegol at win, seidr, a sudd afal Pant Du mae dewis eang o ddiodydd meddal, neu lager drafft oer, dewis o gwrw lleol Cymreig, a gwinoedd safonol o bob cwr o’r byd.
Mae digon o fyrddau i eistedd tu mewn neu du allan ar y patio ac yn yr ardd. Lleoliad perffaith ar gyfer cymdeithasu a mwynhau mewn awyrgylch cynnes a chroesawgar.
Bwydlen - cliciwch yma
TE PRYNHAWN
Beth am fwynhau Te Prynhawn gyda ffrind arbennig yn Pant Du.
Detholiad o frechdanau a baratowyd yn ffres, sgons jam a hufen cartref a detholiad o gacennau. Wedi'i weini 2.30pm - 4.30pm Llun i Sadwrn. Rhaid archebu lle o flaen llaw.
Bwydlen Te Prynhawn Nadolig
- cliciwch yma
(Bwydlen yn newid yn dymhorol)
Os hoffech roi rhodd i ffrind neu aelod o'r teulu rydym yn cynnig Tocyn Rhodd ar gyfer y Tê Prynhawn:
CINIO SUL
Gweinir Cinio Dydd Sul rhwng 12:30 a 2:30.
Rydym yn ymfalchïo mewn defnyddio cynhwysion ffres, a chig o'r ansawdd flaenaf gan Gigydd Wavells yn Llanrug, ynghyd â gwasanaeth anffurfiol cyfeillgar.
Cymerwch olwg ar ein bwydlen - cliciwch yma
Mae'r Cinio Dydd Sul yn ddigwyddiad prysur, ffoniwch ni ar 01286 881819 i gadw bwrdd.
BRECWAST
Gweinir Brecwast ar ddyddiau Gwener, Sadwrn a Sul rhwng 10:30 and 11:45.
O frecwast llawn, i frecwast llysieuol, granola, iogwrt a ffrwythau, mae rhywbeth at ddant pawb.